Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

Adroddiad: CLA(4)-12-12 : 28 Mai 2012

 

Mae’r Pwyllgor yn cyflwyno’r adroddiad a ganlyn i’r Cynulliad:

 

Offerynnau nad ydynt yn cynnwys unrhyw faterion i’w codi o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

 

Offerynnau’r weithdrefn penderfyniad negyddol

 

CLA145 - Rheoliadau Pwyllgor Cydwasanaethau Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre (Cymru) 2012

Gweithdrefn: Negyddol.

Fe’u gwnaed ar: 8 Mai 2012.

Fe’u gosodwyd ar: 11 Mai 2012.

Yn dod i rym ar: 1 Mehefin 2012

 

CLA146 - Rheoliadau Iechyd Meddwl (Ysbyty, Gwarcheidiaeth, Triniaeth Gymunedol a Chydsynio i Driniaeth) (Cymru) (Diwygio) 2012

Gweithdrefn: Negyddol.

Fe’u gwnaed ar: 9 Mai 2012.

Fe’u gosodwyd ar: 11 Mai 2012.

Yn dod i rym ar: 2 Mehefin 2012

 

CLA148 - Rheoliadau Hysbysebu a Hyrwyddo Tybaco (Arddangos) (Cymru) 2012

Gweithdrefn: Negyddol.

Fe’u gwnaed ar: 14 Mai 2012.

Fe’u gosodwyd ar: 16 Mai 2012.

Yn dod i rym: yn unol â rheoliad 1(1)

 

CLA149 - Rheoliadau Hysbysebu a Hyrwyddo Tybaco (Gwerthwyr Tybaco Arbenigol) (Cymru) 2012

Gweithdrefn: Negyddol.

Fe’u gwnaed ar: 14 Mai 2012.

Fe’u gosodwyd ar: 16 Mai 2012.

Yn dod i rym ar: 6 Ebrill 2015

 

 

Offerynnau’r weithdrefn penderfyniad cadarnhaol

 

CLA147 - Rheoliadau Hysbysebu a Hyrwyddo Tybaco (Arddangos Prisiau) (Cymru) 2012

Gweithdrefn: Cadarnhaol.

Fe’u gwnaed ar: Ni nodwyd.

Fe’u gosodwyd ar: Ni nodwyd.

Yn dod i rym: yn unol â rheoliad 1(1)

 

Deddfwriaeth Arall

 

CLA150 - Canllawiau Statudol i Awdurdodau Rheoli Perygl - Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010

 

Ystyriodd y Pwyllgor Ganllawiau Statudol i Awdurdodau Rheoli Perygl - Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010. Er bod y Canllawiau’n ymwneud yn bennaf â threfniadau ymarferol, ystyriodd y Pwyllgor fod y weithdrefn sy’n berthnasol iddynt yn amlwg yn ddeddfwriaethol ei natur. Felly, penderfynodd y Pwyllgor y byddai’n craffu ar ganllawiau y mae gweithdrefn felly yn berthnasol iddynt. Er hynny, cytunodd y Pwyllgor mai’r unig fater a oedd yn haeddu cyflwyno adroddiad arno ar yr achlysur hwn oedd y weithdrefn a oedd yn gymwys i’r Canllawiau. Ceir adroddiad y Pwyllgor ar y Canllawiau hyn yn Atodiad 1 i’r Adroddiad hwn.

 

Offerynnau sy’n cynnwys materion i’w codi o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

 

Offerynnau’r weithdrefn penderfyniad negyddol

 

Dim

 

Offerynnau’r weithdrefn penderfyniad cadarnhaol

 

Dim

 

Busnes Arall

 

CLA CM4 - Memorandwm Cydsyniad ar gyfer Gorchymyn Cyrff Cyhoeddus 2011: Diddymu Arolygiaeth Gweinyddiaeth Llysoedd Ei Mawrhydi a Bwrdd y Gwarcheidwad Cyhoeddus 2012 (Saesneg yn Unig)

 

Ystyriodd y Pwyllgor CLA CM4 – Memorandwm Cydsyniad ar gyfer Gorchymyn Cyrff Cyhoeddus 2011: Diddymu Arolygiaeth Gweinyddiaeth Llysoedd Ei Mawrhydi a Bwrdd y Gwarcheidwad Cyhoeddus 2012. Er y gwnaed y sylw y byddai’n fwy eglur pe bai diddymu Bwrdd y Gwarcheidwad Cyhoeddus ac Arolygiaeth Gweinyddiaeth Llysoedd EMyn cael ei gyflawni drwy wneud dau orchymyn gwahanol, ni chanfu’r Pwyllgor unrhyw reswm pam y dylid dal y cydsyniad yn ôl ac argymhellodd ei fod yn fodlon ar y Gorchymyn presennol.

 

 

Ymchwiliadau’r Pwyllgor: Ymchwiliad i sefydlu awdurdodaeth ar wahân i Gymru

 

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth lafar gan Elfyn Llwyd AS, Arweinydd Grŵp Plaid Cymru, Tŷ’r Cyffredin. Cytunodd Mr Llwyd i geisio darparu gwybodaeth ystadegol ychwanegol mewn cysylltiad â nifer yr achosion o gyfraith weinyddol a glywyd yng Nghymru ers 2010, pan sefydlwyd swyddfa benodol yng Nghaerdydd i ymdrin â hawliadau’r Llys Gweinyddol.

 

Bil Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru)

 

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth lafar gan Leighton Andrews AC, Gweinidog Addysg a Sgiliau Llywodraeth Cymru mewn cysylltiad â Bil Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru). Daeth swyddogion Llywodraeth Cymru gyda’r Gweinidog, sef: Anthony Jordan, Pennaeth Llywodraethu a Threfniadaeth Ysgolion, Amina Rix, Cyfreithiwr, Simon Morea, Cyfreithiwr, Ceri Planchant, Cyfreithiwr, Llywodraeth Cymru. Mae’r Gweinidog wedi gwneud addewid i ddarparu gwybodaeth ychwanegol ynghylch:

 

1.       Drafft o’r Cod Trefniadaeth Ysgolion yn ystod trafodion Cyfnod 2

 

2.       Manylion o ran ble y gellir dod o hyd i’r pwerau sydd wedi’u cynnwys yn adran 58, adran 67, adran 82 a pharagraff 34(1)(b) o Atodlen 5 ar hyn o bryd ac, yn benodol, a yw’r pwerau hyn wedi cael eu defnyddio ac, os felly, pryd.

 

3.       Tabl o ddeilliannau yn nodi ffynonellau’r ddeddfwriaeth arfaethedig i’w hymgorffori yn y Bil presennol.

 

Bil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru)

 

Ystyriodd y Pwyllgor Fil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 28 Mai 2012 a phenderfynodd wahodd Lesley Griffiths AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, i roi tystiolaeth.

 

Penderfyniad i Gwrdd yn Breifat

 

Yn unol â Rheol Sefydlog 17.42(vi) a (ix) penderfynodd y Pwyllgor wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod er mwyn trafod tystiolaeth a gyflwynwyd hyd yn hyn i’r Ymchwiliad i sefydlu awdurdodaeth ar wahân i Gymru, y dystiolaeth ynghylch Bil Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) ac Ymateb Llywodraeth Cymru i’r Ymchwiliad i roi pwerau i Weinidogion Cymru yn Neddfau’r DU.

 

David Melding AC

Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

28 Mai 2012


Atodiad 1

 

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol


(CLA(4)-12-12)

 

CLA150

 

Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

Teitl: Canllawiau Statudol i Awdurdodau Rheoli Perygl – Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010

 

1.       “Diben y canllawiau yw rhoi cyngor i alluogi Awdurdodau Rheoli Perygl i gydweithio’n adeiladol i reoli’r perygl o lifogydd ac erydu arfordirol. Fe’u lluniwyd hefyd i sicrhau bod ceisiadau am wybodaeth, pan gânt eu cyflwyno, yn cael eu cyflwyno mewn ffordd briodol.”

 

2.       Ar 18 Mai 2012, gosodwyd y Canllawiau Statudol gerbron y Cynulliad Cenedlaethol ynghyd â Nodyn Esboniadol byr.  Gall canllawiau statudol fod yn is-ddeddfwriaeth (neu beidio).  Yn arferol, y prawf yw, a yw’r canllawiau’n ddeddfwriaethol eu natur. Mae’n ofynnol bod y personau (gan gynnwys cyrff cyhoeddus) y cyfeiriwyd y canllawiau atynt, yn rhoi ystyriaeth ddyladwy i ganllawiau o’r fath. Yn ymarferol, golyga hyn y dylai fod ganddynt reswm da iawn dros beidio â dilyn y canllawiau hynny. Rhaid bod modd defnyddio’r rheswm hwnnw i gyfiawnhau’r camau a fabwysiadwyd mewn unrhyw achosion adolygiad barnwrol.

 

3.       Mae’r Canllawiau dan sylw yn ymwneud yn bennaf â threfniadau ymarferol, ac maent yn cynnwys gwybodaeth, fel manylion cyswllt yr awdurdodau perthnasol.  Mae’n bosibl dadlau, felly, nad ydynt yn ddeddfwriaethol eu natur.  Fodd bynnag, mae’r weithdrefn sy’n berthnasol iddynt yn ddeddfwriaethol iawn ei natur.

 

Pŵer galluogi

 

4.       Y pŵer galluogi yw adran 8 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (“y Ddeddf”), is-adran (1) o’r adran sy’n darparu –


“The Welsh Ministers must develop, maintain and apply a strategy for flood and coastal erosion risk management in Wales (a “national flood and coastal erosion risk management strategy”).”


Yn y cyd-destun hwnnw, mae is-adran (6) o’r adran honno’n darparu’r canlynol –


“The Welsh Ministers may, in particular, issue guidance about how Welsh risk management authorities are to comply with the duties under sections 13(1) and 14.”

 

5.       Mae Adran 13(1) yn nodi bod yn rhaid i awdurdodau perthnasol gydweithredu ag awdurdodau perthnasol eraill wrth arfer eu swyddogaethau rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol.

Mae Adran 14 yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd ac Awdurdodau Llifogydd Lleol Arweiniol ofyn am wybodaeth gan berson ynglŷn â’u swyddogaethau rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol.

 

Mae’r canllawiau yn berthnasol i’r ddyletswydd i gydweithredu â cheisiadau am wybodaeth.

 

Y weithdrefn

 

6.       Yr hyn sy’n gwneud y canllawiau hyn yn anghyffredin yw’r weithdrefn sy’n berthnasol iddynt. Mae’r weithdrefn honno wedi’i nodi yn adran 8(7) fel a ganlyn –

 

“The Welsh Ministers must lay any guidance in draft before the National Assembly for Wales; and it may not be issued if during the period of 40 days beginning with the date of laying (ignoring any periods for which the National Assembly is dissolved or is in recess for more than 4 days) the National Assembly resolves that it should not be issued (in that form).”

 

7.       Nid yw canllawiau statudol yn ddarostyngedig i weithdrefn y Cynulliad fel arfer, ond yn yr achos hwn mae amrywiad ar y weithdrefn negyddol.  Fel gydag achosion gweithdrefn negyddol, gall y canllawiau gael eu gwneud a dod i rym, oni bai fod y Cynulliad yn penderfynu yn groes i hyn o fewn cyfnod penodol.  Fodd bynnag, yn achos offerynnau statudol a wneir o dan y weithdrefn negyddol, gwneir yr offerynnau cyn eu gosod fel arfer. Yn yr achos hwn, gosodir y canllawiau ar ffurf ddrafft, ac ni chânt eu gwneud tan ddiwedd y cyfnod penodedig. Felly, mae’r weithdrefn yn rhoi cwmpas ehangach ar gyfer craffu na gweithdrefn negyddol safonol.

 

Craffu

 

8.       Os ystyrir y canllawiau, felly, fel is-ddeddfwriaeth na wnaed drwy offeryn statudol, caiff y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.7(i).  Hyd yn oed os na chaiff ei ystyried yn y modd hwn, caiff y Pwyllgor gyflwyno adroddiad arno o hyd, fel mater deddfwriaethol cyffredinol o dan Reol Sefydlog 21.7(v). Byddai’n fater o’r fath yn rhinwedd y ffaith y caiff gweithdrefnau tebyg eu cynnig yn y Bil Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) (“y Bil”) sydd gerbron y Cynulliad ar hyn o bryd. Mae Adran 33 o’r Bil yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru gyhoeddi canllawiau ar wella ysgolion, ond yn ddarostyngedig i weithdrefn graffu a nodir yn adran 34 o’r Bil. Yn yr un modd, mae adran 39 o’r Bil yn nodi gweithdrefn i Weinidogion Cymru gyhoeddi Cod Statudol ar drefniadaeth ysgolion. Felly roedd yr achos presennol yn rhoi cyfle i’r Pwyllgor ystyried a mynegi barn ynghylch a yw’r weithdrefn hon yn briodol, ac a yw, drwy rinwedd y weithdrefn honno, i’w hystyried fel is-ddeddfwriaeth at ddibenion y Cynulliad a’i Reolau Sefydlog.

 

Materion Technegol: Craffu

 

9.       Er mwyn ei gofnodi, ni nodwyd unrhyw bwyntiau technegol a fyddai wedi bod yn destun adroddiad o dan Reol Sefydlog 21.2 pe bai hwn yn offeryn statudol.

 

Rhinweddau: Craffu

 

10.     Yn yr un modd, ni nodwyd unrhyw bwyntiau rhinweddau a fyddai wedi bod yn destun adroddiad o dan Reol Sefydlog 21.3 pe bai hwn wedi bod yn offeryn statudol.

 

Tynnir sylw’r Cynulliad i’r mater hwn o dan Reol Sefydlog 21.7, oherwydd ei fod yn codi materion deddfwriaethol a gweithdrefnol sy’n debygol o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad.

 

David Melding AC

Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol.

 

28 Mai 2012